Teithio a Symud o Gwmpas
Yn y DU. tra bod allyriadau o gyflenwad ynni wedi gostwng yn sylweddol ers 1990, mae allyriadau o drafnidiaeth wedi aros bron yr un fath. Y sector trafnidiaeth yw allyrrwr mwyaf y DU o nwyon tŷ gwydr (27% yn 2019), gyda cheir a thacsis yn gyfranwyr mawr.
Sir wledig yw Powys, ac mae’r car yn chwarae rhan fawr ym mywydau beunyddiol y rhan fwyaf o bobl, ac mae’n anodd darparu trafnidiaeth gyhoeddus ar draws sir mor fawr a thenau ei phoblogaeth. Mae'r rhyngrwyd wedi helpu trwy ganiatáu i lawer mwy o bobl weithio gartref a hepgor y cymudo dyddiol, ac i deuluoedd a ffrindiau gadw mewn cysylltiad trwy fideo ac efallai peidio â theithio mor aml, ond i'r rhai sydd dal angen teithio, y car sy'n dal i ddominyddu. ein teithiau
Felly, sut gallwn ni leihau ein hallyriadau teithio?
Mae gwelliannau i’n hisadeiledd yn helpu, gan droi hen syniadau yn rhai newydd, a ninnau’n meddwl sut y gallwn yn bersonol leihau ein hallyriadau yn ein hamgylchiadau.
Yn yr adrannau isod, gallwch ddysgu am brosiectau teithio sy'n digwydd o amgylch Powys (a thu hwnt) - ac mae'r pethau cadarnhaol ac arloesol eisoes yn digwydd ...
Mae yna hefyd syniadau ar gyfer lleihau eich allyriadau teithio personol - ar wahân i aros gartref yn unig!
Teithio Llesol
Cludiant Cyhoeddus
Lleihau Hedfan
Mae gan y BBC erthygl ar deithio dyddiol yn ei gyfres Smart Guide to Climate Change ar Sut mae ein teithio dyddiol yn niweidio'r blaned.
Business and Suppliers
Bike To The Future Newtown
Bike To The Future - Darganfod mwy
Bike-To-The-Future eq Bike To The Future