Big Solar Coop
https://twitter.com/bigsolarcoop
Pam nad oes gan bob to mawr solar?
Mewn argyfwng ynni a hinsawdd, does dim synnwyr o gwbl.
Rydyn ni’n gweithio ar ateb i hynny, un to ar y tro.
Mae’r Big Solar Co-op yn sefydliad dielw, sy’n rhoi carbon yn gyntaf ac yn cael ei arwain gan wirfoddolwyr.
Rydyn ni’n gosod paneli solar ar adeiladau masnachol a chymunedol ledled y DU – o feddygfeydd i ffatrïoedd ac unrhyw beth rhyngddynt.
🌞 Os oes gennych do mawr ac yn talu bil ynni mawr, gallwn ddylunio, adeiladu a pherchnogi solar ar eich to – dim cost cyfalaf, arbedion enfawr mewn ynni a charbon.
🌞 Os hoffech weld mwy o solar yn eich ardal ac mae gennych amser i wirfoddoli, gallwn eich hyfforddi a’ch cefnogi i wneud iddo ddigwydd.
🌞 Os oes gennych rywfaint o arian i fuddsoddi, mae gennym gynnig cyfranddaliadau ar gael drwy’r amser.
Rydyn ni wedi’n lleoli yn Amwythig ond yn gweithio unrhyw le yn y DU. Mae un o’n staff craidd wedi’i leoli ym Mhowys, ac rydym yn awyddus i ddenu gwirfoddolwyr solar newydd, safleoedd ac ynvestwyr o Bowys.
🔆 Ymunwch â ni i greu dyfodol ynni glanach! 🔆
Tagiau Tudalennau
Ychwanegu rhestr Digwyddiad
Rheolwch Dudalen eich Arweinlyfr Gwyrdd
Grwpiau Amgylcheddol Cymunedol ym Mhowys
Defnyddiwch yr eicon hwn ar y chwith uchaf i ddangos y rhestr o enwau
Grwpiau Cymunedol
Busnes Gwyrdd
Digwyddiadau